Live in care and quality care management from Abacare Text Size: Small Medium Large | Language: ENGLISH - WELSH
Beth yr ydym yn ei gynnig
Angen gofalwr personol?

Mae Gofal Personol yn cael ei ddiffinio fel cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sydd â chysylltiad personol a chorfforol agos gyda pherson, heb ystyried oedran, nad ydynt am resymau sydd yn ymwneud ag anabledd, breuder, salwch neu gymhwysedd bersonol yn gallu ei ddarparu ar eu cyfer eu hunain heb gymorth. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys, er enghraifft:
  • Cynorthwyo’r person i godi a gwisgo neu eu dadwisgo’n barod i fynd i’r gwely
  • Helpu’r person i ymolchi, cael cawod neu fath gan gynnwys golchi’r gwallt, eillio a hylendid genau
  • Cynorthwyo’r person gyda’i ofynion toiled
  • Cynorthwyo’r person i fwyta eu bwyd ac i yfed diod
  • Cynorthwyo person gyda’u meddyginiaeth neu dasgau eraill sy’n ymwneud â iechyd gan gadw at bolisi iechyd y cytunwyd arno.
  • Glanhau dannedd a/neu ddannedd gosod
  • Glanhau sbectol a theclynnau clywed a chynorthwyo wrth eu rhoi ymlaen
  • Cynorthwyo wrth ddod allan o gadair
  • Cefnogaeth bersonol gyfrinachol, sensitif ac arbenigol ei natur
Mae tasgau domestig hefyd yn cael eu cynnwys os oes angen a gallent gynnwys:
  • Glanhau llefydd ble mae rheolau hylendid yn bwysig, yn cynnwys bathiadau, sinciau, toiledau, comodau, poptai, arwynebau gweithio, crochenwaith a chyllyll a ffyrc.
  • Golchi dillad a smwddio
  • Newid a gwneud y gwely
  • Paratoi a choginio bwyd, gwneud diodydd
  • Cynorthwyo gyda’r siopa
  • Glanhau ffenestri mewnol
  • Hwfro carpedi a glanhau lloriau
  • Casglu pensiynau a phresgripsiynau
  • Gwagio a glanhau comodau
Bydd yr offer a’r nwyddau glanhau fydd eu hangen i gwblhau’r tasgau i gyd yn cael eu darparu gan y Defnyddiwr Gwasanaeth. Rydym hefyd yn helpu i edrych ar ôl anifeiliaid anwes os oes angen.