Live in care and quality care management from Abacare Text Size: Small Medium Large | Language: ENGLISH - WELSH
Cysylltiadau Defnyddiol
Safonau Cenedlaethol Lleiaf ar gyfer Gofal Cartref
Er mwyn sicrhau fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cyrraedd y safon er mwyn cofrestru dylai pob darparwr gwasanaeth gyfeirio at y dogfennau hyn. Gall gwybodaeth sy’n ymwneud â rheolau Safon Cenedlaethol Lleiaf gael ei ganfod a’i lawr lwytho drwy:
www.cssiw.org.uk
Gwiriadau Biwro Cofnodion Trosedd
Mae’n ofynnol o dan y gyfraith i’r rhan fwyaf o staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n cael eu harchwilio gan y CSSIW yn cynnwys cartrefi gofal i oedolion, cartrefi plant ac asiantaethau gofal cartref gael gwiriadau gan y Biwro Cofnodion Troseddol. Mae hyn yn darparu’r amddiffyniad pwysig i’r bobl sy’n derbyn gofal gan y gwasanaethau hyn. Mae gofynion amseriad a lefel y gwiriad yn amrywio ac yn ddibynnol ar y gwasanaeth a’r swydd. Cewch fwy o wybodaeth o:
www.crb.org.uk
Archwiliad
Y mae CSSIW wedi ymrwymo i sicrhau fod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yn derbyn gofal o ansawdd da a bod eu lles a’u hawliau yn cael eu diogelu’n gywir bob amser. Mae’r CSSIW yn arolygu trwy fesur yn erbyn rheoliadau ar Safonau Cenedlaethol Lleiaf. Y mae’n rhaid i chi gydymffurfio gyda’r gofynion cyfreithiol i gyd a dylech gyrraedd y Safonau Cenedlaethol Lleiaf er mwyn sicrhau fod eich defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cadw’n ddiogel heb niwed, a bod y gofal y maen nhw’n ei dderbyn o’r safon uchaf posibl. Cewch fwy o wybodaeth o:
www.cssiw.org.uk
Cyngor Cyffredinol Gofal Cymdeithasol (CCGC)
CCGC yw’r corff rheolaethol ar gyfer gweithlu gofal cymdeithasol yn Lloegr. Sefydlwyd y Cyngor Cyffredinol Gofal Cymdeithasol yn Hydref 2001 yn unol â Deddf Safonau Gofal 2000. Ei waith yw cynyddu ei warchodaeth o ddefnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol drwy reoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol a thrwy sicrhau fod safonau gwaith o fewn y gyfadran gofal cymdeithasol o’r safon uchaf. Yn ogystal â hyrwyddo safonau uchel yn y gyfadran gofal cymdeithasol gall hefyd hyrwyddo gofal cymdeithasol a bod o gymorth i roddi iddo’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu. Cewch fwy o wybodaeth o:
www.gscc.org.uk
Adran Iechyd (AI)
Yr Adran Iechyd yw’r adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am yrru ymlaen newidiadau a moderneiddio yn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol a gofal cymdeithasol, yn ogystal â chodi safonau iechyd cyhoeddus. Cewch fwy o wybodaeth o:
www.dh.gov.uk