Rydym yn darparu’r gofal, y gefnogaeth a’r gwasanaeth ymarferol i alluogi pobl i aros yn eu cartrefi. Mae staff Abacare wedi ymrwymo’n hollol i’r nodau a’r egwyddorion hyn:
- Trin pobl yn deg a gyda’r parch mwyaf bob amser
- Cynnal, a phan yw’n bosibl, gwella safon bywydau pobl sy’n derbyn gofal
- Gadael i bobl wneud sylwadau ar sut y mae gwasanaethau yn cael eu darparu
- Darparu gwasanaeth nad yw’n gwahaniaethu rhwng pobl â’i gilydd
- Sicrhau’r ymarfer gorau bob amser
- Parhau i ddarparu gofal o’r safon uchaf
- Monitro safon y gwasanaeth a hyfforddiant y gofalwyr yn gyson
- Lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer gofalwyr
- Galluogi iddyn nhw fyw bywyd mor arferol â phosibl
- Galluogi iddyn nhw wneud penderfyniadau sydd yn ymwneud â’u gofal eu hunain
- Galluogi iddyn nhw gael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain
- Galluogi iddyn nhw gael eu hannibyniaeth eu hunain
- Galluogi iddyn nhw deimlo’n ddiogel ac yn hollol hyderus am y ffordd y mae eu hanghenion gofal yn cael eu darparu
- Sicrhau fod staff i gyd yn cael eu recriwtio a’u dethol yn ofalus ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth- fod bob aelod o’r tîm yn cael eu hyfforddi’n drylwyr a fod y staff i gyd yn cael ymchwiliadau heddlu llym
I gyd-fynd gyda’n hegwyddorion a’n canlyniadau a nodwyd, bydd ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn ffordd fel ei fod yn:
- Galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain a byw bywyd cyffredin am gyhyd â phosibl
- Cadw safon byw pobl, eu galluogi nhw i gael gafael ar neu i ail- afael mewn sgiliau byw sylfaenol a chyflawni eu potensial llawn
- Parchu pobl fel unigolion drwy nodi hîl, rhyw, gallu, oedran, tueddiad rhywiol, iaith, diet, diwylliant a ffydd ac i sicrhau fod y gwasanaeth yn ateb eu hanghenion.
- Hybu dewis personol a galluogi Defnyddwyr Gwasanaeth a’u gofalwyr pan fo hynny’n bosibl, i wneud penderfyniadau gwybodus a rhoi rheolaeth i bobl dros ddewisiadau sy’n effeithio arnyn nhw.
- Rhoi gwybodaeth lawn i ddefnyddwyr gwasanaeth o beth yw pwrpas darparu gwasanaeth penodol
- Adolygu rheolaidd, datblygu a darparu’r gwasanaeth gofal cartref mewn ffordd ofalus a sensitif.
- Sicrhau cysondeb yn narpariaeth y gofal.
- Addasu’r gwasanaeth i gyd-fynd â gofynion y Defnyddiwr Gwasanaeth wrth iddynt newid.
- Cynorthwyo a chefnogi y gofalwyr teuluol er mwyn iddyn nhw barhau i ddarparu gofal
- Cynnal y gofal gorau bosibl drwy asesiadau, archwiliadau a rheoliad ansawdd
- Cynnal agwedd hyblyg
- Helpu pobl i ofalu amdanyn nhw’u hunain gymaint ag y gallant neu y maen nhw’n fodlon ei wneud
- Parchu eu hurddas bob amser
- Gadael iddyn nhw gael eu preifatrwydd ar eu cyfer eu hunain, eu heiddo a’u materion busnes
- Cyfrinachedd llwyr i’r Defnyddwyr Gwasanaeth
- Safonau hyfforddiant cyson a pharhaus ar gyfer y staff i gyd