|
Rydym yn darparu gofalwyr i fyw gyda phobl am lawer o resymau gwahanol ac ar gyfer llawer o wahanol fathau o bobl. Gall y rhain amrywio o seibiant tymor byr, neu wellhad, neu ofal cydymaith, neu anghenion mwy dwys i rai sydd ag anghenion dibynnol hynod o uchel. Rydym yn aml yn gosod dau ofalwr mewn cartrefi ble mae’r gofynion gofal yn uwch, er enghraifft os oes anghenion symud a thriniaeth neu os yw’r nosweithiau’n gythryblus iawn. Y mae gofalwr sy’n byw gyda person weithiau yn hwyluso cartrefu diogel ar ôl i’r claf ddod o’r ysbyty. Gellir lleihau’r gofal pan fydd y person yn cynefino’n ôl yn eu cartref eu hunain. Os mai hyn yw’r achos, y mae ein haseswyr yn hapus i ddod i ymweld â defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd yn yr ysbyty cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau er mwyn cytuno ar y gwasanaeth priodol. Pan fo angen sylw a gofal arbenigol rydym yn cynnig gwasanaeth gofal arbennig. Mae rhestr lawn o’r topigau rydym yn eu cynnig ar gael. Byddai hyn yn cynnwys cynnig cymorth i deuluoedd ble mae plant ifanc. Ar yr adegau hyn fe fyddem yn sicrhau fod y gofalwr wedi cyflawni’r Hyfforddiant Gwarchod Plant perthnasol. Rhai rhesymau pam fod gofal gofalwr sy’n byw gyda chi’n addas :
|